Does dim posib cynhyrchu’r gân yn fasnachol heb y geiniog, ac mae cwmni Sain yn darogan na fydd hi’n bosib cynhyrchu caneuon Cymraeg yn fasnachol ymhen pum mlynedd heb newidiadau sylfaenol yn y modd mae cerddoriaeth yn cael ei ariannu.
Mae’r incwm o geir o bob ffynhonnell fasnachol am greu, cynhyrchu, gwerthu a defnyddio cerddoriaeth Gymraeg yn lleihau’n gyson, ac mae’n anodd gweld sut y bydd modd cynhyrchu gweithiau newydd yn fasnachol yn y dyfodol agos.
Mewn ymateb i hyn, mae Sain a Phrifysgol Bangor yn cyd-weithio ar gynllun KESS, sef ymchwil doethuriaeth am dair blynedd fydd yn edrych ar fodelau’r dyfodol ar gyfer mwyafu’r incwm masnachol o werthu a defnyddio cerddoriaeth.
Nid problem i’r diwydiant recordio Cymraeg yn unig yw hyn wrth gwrs, ac mae sawl cwmni byd-eang yn edrych ar fodelau newydd yn dilyn y newid pwyslais o lawr lwytho cerddoriaeth, i ffrydio oddi ar blatfformau ‘cwmwl’. Bydd y cynllun KESS gyda’r Brifysgol, fodd bynnag, yn edrych yn benodol ar sut mae modd creu model arbennig, fydd yn creu incwm cynaliadwy i ddiwydiant cerdd sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth leiafrifol, yn hytrach na’r brif ffrwd Eingl-Americanaidd.
Mae'r cynllun KESS rhwng Sain ar Brifysgol yn cychwyn fel mae cynllun KTP rhwng y ddau sefydliad yn dod i ben, ac ar bnawn Iau, Awst 4ydd, ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod, bydd Sain a’r Brifysgol yn lansio’r cynllun KESS, ac yn cyflwyno canlyniad y cynllun KTP, gyda fforwm drafod agored yng nghwmni Dafydd Iwan, Dafydd Roberts, Steffan Thomas, a nifer o gerddorion blaenllaw Cymru.
Dychwelyd i'r hafan