![]() |
Gruff Prys wrth ei waith yn swyddfeydd newydd Canolfan Bedwyr |
1200: Termau Technoleg Cerddoriaeth
Ar hyn o bryd mae Gruffydd Prys – swyddog ymchwil yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor – yn mewnbynnu termau Technoleg Cerddoriaeth i System Maes-T. Eisoes mae dros 3,000 o dermau wedi'u menbynnu, nifer ohonynt gan Iwan Wyn Williams, myfyriwr yn ei ail flwyddyn ym Mangor a dreuliodd gyfnod yn gwiehtio yn Nghanolfan bedwyr yn ystod yr haf. Bydd y gwaith o safoni termau yn mynd yn ei flaen gyda chymorth criw o ymarferwyr ac unigolion eraill sydd yn ymwneud â maes Technoleg Cerddoriaeth. Bydd Gruff yn cyflwyno agweddau o'i waith wrth yn lansio'r prosiect am hanner dydd, Ddydd Iau 4 Awst ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod.
Subscribe to:
Posts (Atom)