Dydd Gwener, 1230: Dosbarth Meistr Llais gyda Marian Bryfdir

Dyddiad: Dydd Gwener 5 Awst, 2011
Lleoliad: Y Stiwdio (Maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro)
Amser: 1230-1400
Y Dosbarth Meistr
Dyma gyfle i gantorion wella eu sgiliau canu drwy fynychu y dosbarth meistr agored hwn a chymryd rhan mewn tiwtorial lleisiol un i un gyda’r gantores broffesiynol a hyfforddwraig leisiol brofiadol Marian Bryfdir. Bydd y sesiwn yn ymdrin â gwahanol dechnegau perfformio a dehongli gyda’r bwriad o godi safonau'r cantorion unigol. Yn ogystal, bydd cyflwyniad mwy cyffredinol i ymarferion lleisiol ar gyfer unrhyw un sydd yn dymuno cymryd rhan.

Gofynnir i bob cyfranogydd unigol baratoi cân o’i ddewis/dewis ar gyfer ei pherfformio yn ystod y dosbarth meistr. Branwen Gwyn fydd yn cyfeilio a dylid ein hysbysu o’r dewis o gân ymlaen llaw.

Mae lle i hyd at bedwar cyfranogwr unigol ar gael, ac felly dylid cofrestru yn syth i osgoi siomedigaeth, gweler y manylion cyswllt isod. Dewisir yn ôl y cyntaf i’r felin. Mae croeso i unrhyw un fynychu i arsylwi. 

ON Bydd angen anfon copi o’r gân sydd i’w pherfformio at y trefnydd i gyrraedd erbyn Dydd Mawrth 2 Awst 2011.

Manylion cyswllt am wybodaeth a chofrestru: 
mus003@bangor.ac.uk


Cyfeiriad Post
Stephen Rees
Yr Ysgol Cerddoriaeth
Prifysgol Bangor
Gwynedd
LL57 3LW

Marian Bryfdir
Mae Marian Bryfdir yn gantores broffesiynol a hyfforddwraig leisiol o brofiad cerddorol eang iawn. Yn ddiweddar, mae hi wedi ysbrydoli sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr lleisiol ym Mhrifysgol Bangor. Yn ogystal, mae hi wedi bod yn allweddol yn natblygiad Grŵp Opera’r Brifysgol (ar y cyd gyda Dr Chris Collins). Yn 2010, fe glywyd fersiwn dair-ieithog (Almaeneg, Saesneg a Chymraeg) o Ffliwt Hud Mozart, ac yn 2011, fe berfformiwyd un o gampweithiau opera cynnar, L’incoronazione di Poppea gan Claudio Monteverdi.
Marian Bryfdir

Branwen Gwyn
Marian yn gweithio ar safle a symudiadau'r corff gyda Ruth Evans


Isod: Golygfeydd o L’incoronazione di Poppea gan Monteverdi