Mae gennym nifer o weithgareddau gwahanol ar y gweill, o weithdai cerddorol i'r plant lleiaf, i berfformiad gan Cass Meurig a Nial Cain, ac o fforwm trafod ar ddyfodol y diwydiant cerddorol yng Nghymru i set unawdol gan y canwr Daniel Lloyd. Dyma amserlen y diwrnod: bydd mwy o fanylion yn dilyn yn fuan.
- 1100
Camau Cyntaf Cerdd
Gweithdai cerdd i'r plant lleiaf (18 mis-4 ml oed) o dan ofal Marie-Claire Howorth ac Elise Gwilym.
- 1200
Termau Technoleg Cerddoriaeth
Cyflwyniad ar waith o safoni Termau Technoleg Cerddoriaeth sydd yn digwydd o dan arweiniad yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
- 1230
Camau Cyntaf Cerdd
Gweithdai cerdd i'r plant lleiaf (18 mis-4 ml oed) o dan ofal Marie-Claire Howorth ac Elise Gwilym.
- 1300
Perfformiad: Cass Meurig a Nial Cain
Caneuon gwerin i bobl ifainc…o bob oed!
- 1400
Diwedd y gân...?
Mae Cwmni Sain a Phrifysgol Bangor yn cydweithio ar gynllun KESS, sef ymchwil dair blynedd fydd yn edrych ar fodelau’r dyfodol ar gyfer cynyddu'r incwm masnachol o werthu a defnyddio cerddoriaeth. Yn dilyn cyflwyniad ar yr ymchwil, fe fydd fforwm trafod agored yng nghwmni rhai o gerddorion blaenllaw Cymru.
- 1500
Cwis Cerdd: Tîm Sain yn erbyn Tîm Cyn-fyfyrwyr Bangor
Cwis llawn hwyl ar gerddoriaeth gyfoes o bob math!
- 1600
Perfformiad: Bydd Daniel Lloyd – a fu’n fyfyriwr ym Mangor – yn perfformio set unawdol i gloi'r diwrnod.
Dosbarth Meistr Lleisiol
Hefyd, ar DDYDD GWENER 5 o Awst, fe fydd ’na ddosbarth meistr lleisiol gan yr hyffroddwraig leisiol brofiadol Marian Bryfdir, gyda Branwen Gwyn yn cyfeilio. Cynhelir y dosbarth meistr yn Y Stiwdio ar faes yr Eisteddfod, rhwng 1230 a 1400. Cliciwch ar y pennawd am fwy o wybodaeth. Mae na daflen ddwyieithog ar gael i'w lawrlwytho yma, ac fe geir mwy o fanylion trwy ebostio mus003@bangor.ac.uk