22/07/2011

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011

Dewch yn llu i stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ddydd Iau 4 Awst.

Mae gennym nifer o weithgareddau gwahanol ar y gweill, o weithdai cerddorol i'r plant lleiaf, i berfformiad gan Cass Meurig a Nial Cain, ac o fforwm trafod ar ddyfodol y diwydiant cerddorol yng Nghymru i set unawdol gan y canwr Daniel Lloyd. Dyma amserlen y diwrnod: bydd mwy o fanylion yn dilyn yn fuan.

  • 1100
    Camau
    Cyntaf Cerdd
    Gweithdai cerdd i'r plant lleiaf (18 mis-4 ml oed) o dan ofal Marie-Claire Howorth ac Elise Gwilym.
  • 1200
    Termau Technoleg Cerddoriaeth

    Cyflwyniad ar waith o safoni Termau Technoleg Cerddoriaeth sydd yn digwydd o dan arweiniad yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
  • 1230
    Camau
    Cyntaf Cerdd
    Gweithdai cerdd i'r plant lleiaf (18 mis-4 ml oed) o dan ofal Marie-Claire Howorth ac Elise Gwilym.
  • 1400
    Diwedd y gân...?

    Mae Cwmni Sain a Phrifysgol Bangor yn cydweithio ar gynllun KESS, sef ymchwil dair blynedd fydd yn edrych ar fodelau’r dyfodol ar gyfer cynyddu'r incwm masnachol o werthu a defnyddio cerddoriaeth. Yn dilyn cyflwyniad ar yr ymchwil, fe fydd fforwm trafod agored yng nghwmni rhai o gerddorion blaenllaw Cymru.
  • 1500
    Cwis Cerdd:
    Tîm Sain yn erbyn Tîm Cyn-fyfyrwyr Bangor
    Cwis llawn hwyl ar gerddoriaeth gyfoes o bob math!
  • 1600
    Perfformiad:
    Bydd Daniel Lloyd – a fu’n fyfyriwr ym Mangor – yn perfformio set unawdol i gloi'r diwrnod.


Dosbarth Meistr Lleisiol
Hefyd, ar DDYDD GWENER 5 o Awst, fe fydd ’na ddosbarth meistr lleisiol gan yr hyffroddwraig leisiol brofiadol Marian Bryfdir, gyda Branwen Gwyn yn cyfeilio. Cynhelir y dosbarth meistr yn Y Stiwdio ar faes yr Eisteddfod, rhwng 1230 a 1400. Cliciwch ar y pennawd am fwy o wybodaeth. Mae na daflen ddwyieithog ar gael i'w lawrlwytho yma, ac fe geir mwy o fanylion trwy ebostio mus003@bangor.ac.uk